Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 9 Ionawr 2017

Amser: 14.00 - 15.51
 


Preifat

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Mike Hedges AC

Rhianon Passmore AC

Lee Waters AC

Swyddfa Archwilio Cymru:

Anne Beegan

Gillian Body

Gareth Jones

Matthew Mortlock

Dave Thomas

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

 

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI2>

<AI3>

2.1   Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (12 Rhagfyr 2016)

</AI3>

<AI4>

2.2   Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (14 Rhagfyr 2016)

</AI4>

<AI5>

3       Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

 

3.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a thrafododd yr awgrymiadau sydd ynddo.

3.2 Bydd y Clercod yn paratoi papur pellach ac yn cynnwys enghreifftiau o fodelau gwaith gwahanol er mwyn galluogi'r Aelodau i gael trafodaeth bellach.

 

</AI5>

<AI6>

4       Gwasanaethau Orthopedig: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

4.1 Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth ddiweddaraf ymhellach.

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr Goodall cyn y cyfarfod yn rhoi gwybod iddo am feysydd y mae'r Aelodau wedi mynegi diddordeb yn eu trafod gydag ef. 

 

 

</AI6>

<AI7>

5       Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

5.1 Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth ddiweddaraf ymhellach.

 

 

</AI7>

<AI8>

6       Consortia Addysg Rhanbarthol: papur cwmpasu'r ymchwiliad

 

6.1 Trafododd yr Aelodau'r papur cwmpasu a:

·         chytunwyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad;

·         trafodwyd y rhestr awgrymedig o dystion;

·         cytunwyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig; a

·         chytunwyd i gynnal ymgynghoriad ar-lein gydag athrawon a phenaethiaid.

 

 

</AI8>

<AI9>

7       Archwilydd Cyffredinol Cymru - Blaenraglen waith

 

7.1 Trafododd yr Aelodau'r gwaith sydd ar y gweill a nodwyd eu dewis ar gyfer y gwaith hwnnw a geir ym mlaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a nododd y byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod ymhellach yn y cyfarfod ar 16 Ionawr 2017.

 

</AI9>

<AI10>

8       Darpar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru: Trafod y llythyr drafft

 

8.1 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft a fydd yn cael ei anfon cyn i'r Ysgrifennydd Parhaol newydd ddechrau yn ei swydd ar 6 Chwefror 2017.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>